Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 17 Tachwedd 2016
Amser: 09.30 -
11.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3856
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Simon Dean, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 313KB) Gweld fel HTML (163KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Elin Jones.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion.
3.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion, a chytunodd ar set o faterion allweddol i'w cynnwys yn ei adroddiad drafft.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a gaiff ei anfon at Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft 2017-18 a chytunodd arno.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenraglen waith yn y dyfodol, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru a'r amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad;
· gwahodd yr Athro Robin Williams a/neu aelodau o'i dîm ymgynghorol, a wnaeth y gwaith cwmpasu ar gyfer y model newydd o ddarparu addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, i roi tystiolaeth ar ein hymchwiliad i recriwtio staff meddygol.